amdanom ni
håid yw Beth (yr athrawes) ac Owain (y dylunydd) a’u haid bach nhw yn Sir Benfro
cwmni bach cymreig yw håid sydd yn creu adnoddau addysgiadol wedi'u hysbrydoli gan anghenion newidiol a datblygol eu haid o 3 o blant
mae gan Beth dros 10 mlynedd o brofiad yn dysgu plant oedran cynradd gydag arbenigedd mewn addysg a datblygiad plant o oedranau 3-7
mae Owain yn creu pob math o bethau, ac yn dylunio pob delwedd sydd i'w gweld ar ein cynnyrch
mae popeth ry'n ni'n creu yn benodol ar gyfer cam nesaf ym mywydau ein plant, ac wedi eu dylunio gydag ymchwil manwl, er mwyn creu'r math o gynnyrch bydden ni ein hunain eisiau eu defnyddio, neu eu harddangos yn ein cartref

deor
cardiau addysgiadol A6 yn cyflwyno sgiliau sylfaenol i'ch plentyn wrth iddynt dyfu
daw'r cardiau mewn bocs gyda bag
perffaith ar gyfer y dosbarth a'r cartref

mudo
cardiau maint poced ar gyfer mynd ar anturiaethau
setiau amrywiol i annog chwilfrydedd ym myd natur, cardiau gwydn gyda gorchudd plastig matte, hŵp metel, a bag bach i’w cludo i bob man

nyth
eitemau deniadol gyda phwyslais ar chwarae, dysgu a thyfu i'r cartref
printiadau, addurniadau ac anrhegion